CELG(4) HIS 38

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

 Ymateb gan Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth  

 

Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol Gan Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

1.         Mae’n dda gen i roi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol ac rwy’n croesawu sylwadau’r Pwyllgor ar y materion sydd o’n blaen.

 

2.         Mae’r amgylchedd hanesyddol yn ganolog i’n diwylliant ni yng Nghymru ac i’n hunaniaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’n adnodd sy’n cael ei rannu ac mae’n rhan o’n cyd-dreftadaeth. 

 

3.         Ym mis Ionawr, lansiais fy mlaenoriaethau drafft ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/policy/ministerialprioritiesforthehistoricenvironment/?skip=1&lang=cy.  Un o’r blaenoriaethau hyn yw hybu gwell gwerthfawrogiad o werth ac effaith y dreftadaeth leol ar gyfer cymunedau a’u datblygiad cynaliadwy.  Hoffwn annog pobl i ddeall, mwynhau a gwerthfawrogi’r nodweddion a’r storïau sy’n rhoi eu cymeriad arbennig i leoedd, a defnyddio hynny i fwydo datblygiadau newydd a llesiant cymunedau. Hoffwn sicrhau bod cymunedau yn cael eu cynnwys yn y broses ac yn cael eu grymuso i wneud penderfyniadau am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.

 

4.         Bydd y deunaw mis nesaf yn gyfnod hollbwysig ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol wrth i Lywodraeth Cymru barhau i gymryd y cyfle, drwy’r Bil Treftadaeth, i fwrw golwg sylfaenol ar y systemau a’r arferion cyfredol sydd ar gael i ddiogelu’n hamgylchedd hanesyddol yn ogystal ag edrych ar y grymoedd cymdeithasol, y grymoedd amgylcheddol a’r grymoedd ehangach eraill a fydd yn effeithio ar ein treftadaeth yn y dyfodol. Gwyddom fod angen inni ystyried system o ddiogelu asedau hanesyddol sy’n fwy addas at faterion cyfoes. Ar hyd y ffordd bydd yna gyfnod o ymgysylltu ac ymgynghori helaeth, gan gynnwys y gynhadledd Treftadaeth ar 19 Gorffennaf, cyhoeddi fy Strategaeth ar yr Amgylchedd Hanesyddol yn yr hydref ac ymgynghori’n ffurfiol ar y cynigion ynglŷn â’r Bil y flwyddyn nesaf. Rwy’n croesawu’r cyfraniad gwerthfawr y gall y Pwyllgor hwn ei wneud at y broses.

 

5.         Mae’r Pwyllgor wedi gofyn nifer o gwestiynau ymgynghori ac rwy’n bwriadu ymdrin â phob un o’r rhain yn ei dro.

Pa mor briodol a llwyddiannus yw’r systemau presennol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu ac i reoli’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru?

6.         Ar hyn o bryd mae yna ystod eang o ddulliau rheoli yn y ddeddfwriaeth  i helpu i ddiogelu asedau hanesyddol, ac mae llawer o’r rhain wedi’u sefydlu ers blynyddoedd lawer. Egwyddor sylfaenol y system gyfredol yw dod o hyd i’r asedau treftadaeth hynny sydd o arwyddocâd cenedlaethol (gan gynnwys adeiladau hanesyddol a henebion) a rhoi diogelwch statudol iddyn nhw. Gallwch weld data am asedau hanesyddol Cymru yn fy mhapur safbwynt ar yr Amgylchedd Hanesyddol a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2012.

            http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/policy/ministerialprioritiesforthehistoricenvironment/?skip=1&lang=cy. Rhaid i unrhyw newid arfaethedig a allai effeithio ar yr asedau dynodedig hyn fynd drwy broses o ofyn caniatâd.

 

7.         At ei gilydd, mae’r system wedi gweithio’n dda, ond fe fyddai ar ei hennill pe bai yna raglen o fireinio a moderneiddio.

 

8.         Rwy’n ymwybodol hefyd fod yna nifer o densiynau ar hyn o bryd. Un enghraifft yw sut rydyn ni’n rheoli’r elfennau hynny ar amgylchedd hanesyddol Cymru nad ydyn nhw wedi’u diogelu’n statudol. Er enghraifft, gallai rhai adeiladau hanesyddol fod yn werthfawr iawn ym marn y cymunedau lleol, ond heb fodloni’r meini prawf llym iawn i gael eu dynodi’n statudol, sy’n eu gadael yn llawer mwy agored felly i gael eu dymchwel.

 

9.         Ar hyn o bryd, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw rheoli’r elfennau anstatudol hyn ar ein hamgylchedd hanesyddol, gan ddilyn arweiniad y polisi cynllunio a’r canllawiau yn y cylchlythyrau perthynol. I gyd-fynd ag unrhyw adolygiad o’r trefniadau yn y ddeddfwriaeth, mae’n rhaid cael archwiliad tebyg ynglŷn â’r fframwaith polisi ehangach. 

 

10.       Yn 2011 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru chwe Egwyddor Gadwraeth allweddol ar gyfer rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru mewn modd cynaliadwy http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/conservation/conservationprinciples/?skip=1&lang=cy. Mae’r rhain y cynnwys egwyddorion rhannu perchnogaeth, rhannu cyfrifoldeb, cyfranogi a thryloywder a  bydd y rhain yn bwydo’r adolygiad cyfredol o’n polisïau ynglŷn â diogelu a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru.

 

11.       Yn hanesyddol, mae gwaith i ddiogelu a chadw safleoedd hanesyddol yn canolbwyntio’n unswydd ar weddillion materol y gorffennol – ffabrig adeiladau a henebion a’u cysylltiadau â digwyddiadau ac unigolion o’r gorffennol. Serch hynny, mae’r egwyddorion cadwraeth sydd wedi’u cyhoeddi yn tynnu sylw at yr angen i fyfyrio ar werthoedd ehangach y dreftadaeth yn ein bywydau – ei gwerth cymdeithasol, economaidd a chymunedol. Mae hyn yn cydnabod bod pobl yn codi eu hunaniaeth neu eu cof cymunedol o safle hanesyddol gan eu defnyddio i sicrhau ystod eang o fanteision cymdeithasol ac economaidd.

12.       Mae’r themâu hyn eisoes wedi bod yn amlwg yn y rhaglen o weithdai a thrafodaethau a lansiais ym mis Chwefror ac sy’n helpu i lunio’r polisi ar yr amgylchedd hanesyddol yn y dyfodol, gan gynnwys yr hyn fydd yn cael ei gynnwys yn y Bil Treftadaeth arfaethedig, sydd i’w gyflwyno yn ystod sesiwn 2014-2015. Erbyn diwedd mis Gorffennaf byddwn wedi cynnal saith o weithdai a chynhadledd genedlaethol. Erbyn hyn mae cyfres o sesiynau sioe ffordd yn yr arfaeth er mwyn cynnig cyfle i’r Trydydd Sector a’r cyhoedd yn ehangach fynegi barn.

13.       Ar sail yr ymgynghori yma, mae pobl eisoes yn dweud wrthon ni fod angen i gymunedau lleol gael grym i gyfrannu at y penderfyniadau hynny sy’n bwysig iddyn nhw. Mae pobl yn gofyn inni bwyso a mesur a oes lle i system sy’n hybu penderfyniadau lleol, efallai gan weithio ochr yn ochr â’r dulliau presennol o asesu a diogelu asedau treftadaeth.

Pa mor dda y mae polisïau Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru (er enghraifft, o ran dehongli, hygyrchedd, denu cynulleidfaoedd newydd a thwristiaeth)?

14.       Un o’r blaenoriaethau sy’n sail i’n polisïau i hybu’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru yw’r ymrwymiad i ehangu mynediad i’n diwylliant a’n treftadaeth gan annog mwy o bobl i gymryd rhan. Mae ein treftadaeth eithriadol yng Nghymru yn cynnig cyfle gwirioneddol i helpu cymunedau sydd yn aml yn gallu teimlo’n bell o’u hamgylchedd hanesyddol ac yn wir heb gyfran ynddi. Gan hynny, mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru’n defnyddio pob cyfle i wella cysylltiad pobl â’r fan lle maen nhw’n byw a’u balchder ynddi. Rydyn ni eisoes wedi gweld nifer o lwyddiannau yn y maes hwn gan gynnwys cydnabyddiaeth ryngwladol i gampau mewn cadwraeth a dehongli, gyda Cadw ym mlaen y gad.

 

15.       Mae Llywodraeth Cymru, drwy Cadw, yn gyfrifol am 127 o’n safleoedd treftadaeth gorau, o gestyll ac abatai mawr i safleoedd y dreftadaeth ddiwydiannol a henebion cynhanesyddol. Dyma elfennau allweddol ar gyfer ein diwydiant twristiaeth ac  i oleuo pobl ynglŷn â’n hanes.

 

16.       Maen nhw hefyd yn fodd i annog ein pobl ifanc i ddatgloi eu potensial creadigol nhw. Er enghraifft, mae’r prosiect celfyddydau a threftadaeth presennol, Crochan a Ffwrnais, sy’n cael ei gynnal ar wyth o safleoedd Cadw ledled Cymru yn rhan o brosiect yr Olympiad Diwylliannol ac mae wedi bod yn cael ei gynllunio ers tair blynedd. Mae bron 20,000 o bobl ifanc wedi dysgu sgiliau creadigol newydd ar hyd y daith ac mae’r sgiliau hyn i’w gweld ar hyn o bryd ar lwyfan byd-eang.  Mae’r prosiect wedi cynnwys cynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd gan gynnwys pobl ddigartref, cleientau’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid a phobl ifanc ag anableddau. Mae’n rhan o ymagwedd ehangach at ehangu cynulleidfa Cadw, drwy gyfrwng Fframwaith Treftadaeth a Chelfyddydau.

 

17.       Mae archaeolegwyr Cadw hefyd yn cydweithio â phartneriaid, fel yr Ymddiriedolaethau Archaeolegol, i ymgysylltu â chymunedau a chynulleidfaoedd newydd drwy ddatblygu ystod o weithgareddau sy’n bwriadu annog pobl i gymryd rhan i ddysgu mwy am y gorffennol. Mae’r Fframwaith Archaeoleg Gymunedol newydd eisoes yn gweithio gydag amryw o gynulleidfaoedd newydd, gan gynnwys troseddwyr ifanc a phlant mewn unedau cyfeirio disgyblion.

 

18.       Ar yr un pryd, nid yw Cadw yn esgeuluso’i gynulleidfaoedd mwy traddodiadol a’r rhan hanfodol y mae treftadaeth yn ei chwarae yn yr economi twristiaeth. Yn 2010, cafodd £144 miliwn ei wario yng Nghymru ar wyliau a diwylliant yn brif weithgaredd ynddynt, a chafodd £590 miliwn ei wario ar wyliau lle’r oedd gweithgarwch diwylliannol yn rhan o’r gwyliau – mae’n eglur bod yma gyfraniad o bwys at yr economi ymwelwyr. Mae’r buddsoddiad cyfredol o £19 miliwn yn y Prosiect Twristiaeth Treftadaeth o dan arweiniad Cadw gyda chyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn enghraifft o’r modd y mae polisi cyfredol Llywodraeth Cymru yn ceisio defnyddio gwerth yr amgylchedd hanesyddol o safbwynt twristiaeth. Mae Cadw yn cymryd rhan yn y Bartneriaeth Twristiaeth Ddiwylliannol, sy’n cael ei chynnull gan Croeso Cymru ac sy’n cynnal perthynas waith agos â’r sector twristiaeth.

 

19.       Rhywbeth sy’n sail i’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth yw datblygu Cynllun Dehongli i Gymru gyfan, sef y cyntaf erioed i unrhyw wlad yn Ewrop ac a fydd yn cynnig rhagor o gydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru. Bydd y cynllun yn helpu i ddod â storïau safleoedd hanesyddol ledled Cymru’n fyw gan eu gwneud yn fwy difyr i ymweld â nhw.

 

20.       Mae’r storïau’n fframweithiau cryf, strwythuredig, thematig ac ymarferol ar gyfer gwneud gwaith dehongli ac yn cynnig cysylltiadau hefyd a mannau eraill lle gall yr ymwelwyr ‘ddilyn y stori’. Dylai’r ffordd ddi-fwlch yma o ddehongli annog yr ymwelwyr i ddeall nad yw henebion yn bodoli ar eu pen eu hunain, ond eu bod yn rhan o storïau cenedlaethol neu ranbarthol ehangach. Mae’n deg dweud bod yr henebion hyn yn aml wedi bod yn sylfaen ar gyfer trefi a chymunedau Cymru a’u bod wedi rhoi’r fframwaith y cawson nhw eu hadeiladu arno wedyn.  Drwy fynd ati fel hyn byddwn yn annog ymwelwyr  i grwydro rhagor o safleoedd treftadaeth a gwneud cysylltiadau rhwng safleoedd a storïau.  Rhagwelir felly y bydd ymwelwyr yn crwydro’n fwy helaeth ac yn aros yn hirach.  Erbyn hyn mae deuddeg o gynlluniau dehongli thematig wedi’u gorffen ac mae pum cynllun arall ar y gweill. Byddaf yn lansio’r cynllun cyffredinol mewn cynhadledd o bwys ar ddehongli yn yr hydref.

 

21.       Mae llwyddiant y rhaglenni hyn i’w weld mewn campau unigol fel ennill gwobr bwysig Europa Nostra yn 2011 gan Ffederasiwn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop Gyfan. Mae’r wobr yma, am y prosiect cadwraeth 15-mlynedd yn Llys Esgob Tyddewi, yn enwi gwaith cadwraeth Cadw fel enghraifft eithriadol o ddiogelu treftadaeth a chynnig mynediad i’r cyhoedd, gan gynnwys mynediad i bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwynion.  Gwelir llwyddiant a statws Cymru ym maes cadwraeth a dehongli ym mhenderfyniad y Ffederasiwn i gynnal ei gynhadledd nesaf yng Nghymru yn 2013.

Pa mor dda y mae’r polisïau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol yn cyd-fynd ag amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru (fel adfywio cymunedau)?

22.       Ar draws Llywodraeth Cymru mae yna synergedd rhwng polisïau sy’n ategu’r amgylchedd hanesyddol ochr yn ochr â’r blaenoriaethau ehangach. Er enghraifft, mae’n uchelgais gan Lywodraeth Cymru weld yr amgylchedd yn cael ei reoli fel cyfanwaith ac mae deall tirlun diwylliannol Cymru, ac ystyried effaith pobl dros gyfnod o amser, yn rhan annatod o ymagwedd holistig o’r fath.

 

23.       Yn fy mhortffolio innau rydyn ni eisoes yn adeiladu ar y gwaith presennol rhwng Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol mewn Ardaloedd Adfywio i sicrhau bod adfywio ffisegol a datblygiadau economaidd yn cael eu bwydo gan y dreftadaeth leol sy’n gwneud lleoedd yn arbennig, ac yn parchu’r dreftadaeth leol honno.

 

24.       Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol yn Abertawe i sicrhau gwaith adfywio wedi’i seilio ar y dreftadaeth yn ardaloedd yr Hafod a’r Castell yn y ddinas.  Ac yng Nghaernarfon, mae astudiaeth Cadw i ddisgrifio nodweddion glannau’r dref wedi bod yn arbennig o werthfawr o ran deall sut y gall cymeriad y dref fod yn sylfaen ar gyfer gwaith adfywio.

 

25.       Mae cynaliadwyedd wrth galon agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru ac mae cadw’r amgylchedd hanesyddol, gan ddefnyddio dulliau a sgiliau traddodiadol, yn gynaliadwy yn ei hanfod. Mae mwy nag un rhan o dair o gyfanswm y stoc o adeiladau yng Nghymru yn dyddio o’r cyfnod cyn 1919. Mae hynny’n gyfran uwch nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig ac mae’n golygu bod deall sgiliau traddodiadol y crefftau adeiladu yn arbennig o berthnasol yma.

 

26.       Mae Cadw wedi bod wrthi’n cysylltu â nifer o sefydliadau i hybu ymagwedd wybodus at gadw a datblygu adeiladau traddodiadol ledled Cymru.  Mae hyn yn cynnwys sgiliau traddodiadol y crefftau adeiladu, gan ganolbwyntio ar y cyflenwad a’r galw. Mae Cadw wedi cydgysylltu â’r Adran Addysg a Sgiliau yn hyn o beth, yn ogystal â Sgiliau Adeiladu Cymru a phartneriaid posibl eraill.

 

27.       Mae Cadw hefyd wedi parhau â’i weithlu crefftau medrus ei hun ac mae’n gobeithio cyflogi prentisiaid newydd yn y dyfodol agos.  Mae hefyd wedi cynnig lleoedd hyfforddi i hyfforddeion ar y Cynllun Bwrsariaethau Sgiliau sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Treftadaeth ac wedi cefnogi lleoliadau hyfforddi i Ganolfan Tywi. Mae sgiliau mewn crefftau hefyd o ddiddordeb mawr i ymwelwyr â safleoedd hanesyddol ac mae Cadw bellach yn cynnwys hyn ym mhrofiad yr ymwelwyr ar safleoedd allweddol.

Beth fyddai manteision ac anfanteision cyfuno swyddogaethau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru â swyddogaethau sefydliadau eraill, gan gynnwys Cadw?

28.       Mae’n hanfodol ein bod yn edrych yn rheolaidd ar ein strwythurau er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r deilliannau rydyn ni’n dymuno eu cyflawni, a hynny yn y modd mwyaf effeithlon a chost-effeithiol. Mae’r Comisiwn yn gwneud gwaith da a phwysig ond rwy’n ymwybodol hefyd o’r amrediad o wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd y mae ei angen er mwyn cynnal swyddogaethau craidd gwasanaeth amgylchedd hanesyddol yn ei grynswth ac rwy’n awyddus i ddod o hyd i ffordd i sicrhau cadernid ehangach yn y tymor hir mewn hinsawdd o ostyngiadau yn y cronfeydd cyhoeddus.

 

29.       Rwyf wedi sefydlu gweithgor, gan gynnwys swyddogion o’r Comisiwn Brenhinol, Cadw a CyMAL, sy’n edrych ar y materion hyn yn fanwl. Mae’n bosibl mai cyfuno fydd y canlyniad, ond does dim penderfyniadau wedi’u gwneud eto ac mae sawl model posibl yn cael eu hystyried.  Cafodd y Comisiwn yn Lloegr ei uno ag English Heritage fwy na degawd yn ôl a dechreuodd adolygiad tebyg ar Gomisiwn yr Alban tua diwedd 2011. 

 

30.       Rwyf wedi egluro nad creu arbedion yw diben y broses, ond yn hytrach sicrhau bod y cyllidebau’n cael eu targedu’n effeithlon ar y meysydd sydd â’r flaenoriaeth fwyaf yn ystod cyfnod y disgwylir iddo fod yn gyfnod estynedig o ostyngiadau yn y gyllideb.

Pa rôl y mae awdurdodau lleol a sefydliadau yn y trydydd sector yn ei chwarae o ran gweithredu polisi amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru a pha gefnogaeth y maent yn ei chael yn y cyswllt hwn?

31.       Mae gan yr awdurdodau lleol rôl allweddol wrth ddiogelu, rheoli a hybu amgylchedd hanesyddol Cymru, yn enwedig felly drwy’r broses gynllunio. Maen nhw’n cael eu cynorthwyo drwy Bolisi Cynllunio Cymru a’r canllawiau yn y cylchlythyrau perthynol. Mae Cadw’n cydweithio’n agos â thimau cadwraeth yr awdurdodau lleol drwy Fforwm y Dreftadaeth Adeiledig sy’n gyfle cyson i rannu cyngor ac arbenigedd a chanolbwyntio ar y blaenoriaethau.

 

32.       Mae gwaith yr awdurdodau hefyd yn cael ei helpu gan ystod o sefydliadau yn y trydydd sector sy’n rhoi cyngor ar nifer o feysydd arbenigol. Er enghraifft, mae Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru’n rhoi cyngor i’r awdurdodau cynllunio lleol am y goblygiadau ar gyfer archaeoleg mewn cynigion datblygu. Mae’r Ymddiriedolaethau’n unigryw i Gymru ond mae’r model yn ennyn diddordeb mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

33.       Mae’r fframwaith hwn ar gyfer cyflwyno gwasanaethau amgylchedd hanesyddol yn lleol yn cael ei ystyried ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth arfaethedig ar dreftadaeth. Mae Cadw hefyd wedi sefydlu gweithgor gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol i ymateb i’r ymrwymiad yng Nghompact Simpson i adolygu’r cyfle i gydweithredu wrth roi cymorth i adeiladau rhestredig ac adeiladau hanesyddol yn y dyfodol. Mae’r gweithgor wrthi’n ystyried y ffordd orau i fynd i’r afael yn y dyfodol â materion fel capasiti a chysondeb y cyngor ar gadwraeth.

 

34.       Mae fy Ngrŵp Amgylchedd Hanesyddol (HEG) ar gael i gynghori Llywodraeth Cymru ar weithredu er lles amgylchedd hanesyddol Cymru ac i’w hybu ac mae’n dwyn ynghyd bartneriaid allweddol o wahanol ddisgyblaethau a sectorau. Rôl y Grŵp yw nodi materion strategol a blaenoriaethau ar gyfer gweithredu gan gynnwys rolau’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol wrth gynnal a gwella’r amgylchedd hanesyddol a chydlynu cydweithio a phartneriaethau.

 

35.       Mae’r Grŵp yn dod â’r chwaraewyr strategol yn sector yr amgylchedd hanesyddol at ei gilydd yn rheolaidd. Mae’r aelodau arwyddocaol yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Dyfrffyrdd Prydain (sef Glandŵr Cymru cyn hir) ac Amgueddfa Cymru. Mae’r rhain ac aelodau eraill y Grŵp yn warcheidwaid hefyd ar asedau treftadaeth ac yn gyfranwyr allweddol, ochr yn ochr â Cadw, at effaith economaidd, cymdeithasol ac addysgol yr amgylchedd hanesyddol.

 

36.       Mae trydydd sector yr amgylchedd hanesyddol yn fywiog ac mae’n gwneud llawer o waith da i ddod â threftadaeth yn fyw. Mae mwy nag 87 o sefydliadau yn y trydydd sector yng Nghymru a allai gael eu galw’n amgueddfeydd. Gwirfoddolwyr yn unig sy’n rhedeg bron hanner y rhain. Mae amgueddfeydd o’r fath yn chwarae rhan hanfodol wrth ddehongli’r amgylchedd hanesyddol.  Maen nhw’n gwneud hyn ar ffurf arddangosfeydd, llwybrau, darlithoedd, gwaith gydag ysgolion a chymunedau, yn ogystal â bod yn storfeydd ar gyfer arteffactau o’r amgylchedd hanesyddol.

 

37.       Enghraifft arall o waith da y trydydd sector yw Diwrnodau Agored Treftadaeth -  ‘Drysau Agored’. Mae Cadw yn ariannu Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru i drefnu digwyddiadau ‘Drysau Agored’ bob mis Medi ac mae llawer o grwpiau gwirfoddol a dinesig lleol yn cymryd rhan i drefnu a staffio’r digwyddiadau. Bydd miloedd lawer o bobl yn ymweld â safleoedd treftadaeth am y tro cyntaf o ganlyniad i’r dathliad blynyddol hwn.

 

38.       Serch hynny, rwy’n ymwybodol bod trydydd sector yr amgylchedd hanesyddol hefyd yn fregus ac yn wasgaredig. Mae fy mlaenoriaethau drafft ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru a gafodd eu lansio ym mis Ionawr yn nodi fy mhryderon ynglŷn â chadernid y sector, gan ei fod yn dibynnu’n drwm ar gyllid cyhoeddus, a bydd angen inni ystyried ymhellach a oes gan y sector y capasiti, y strwythur a’r eglurder ynglŷn â’i ddiben i gynnal ei gyfeiriad at y dyfodol.

 

Y camau nesaf

 

39.       Arfer da mewn busnes yw parhau i adolygu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu a sut rydyn ni ein hunain wrthi’n cyflawni pethau ar lawr gwlad, ac a yw’r cydbwysedd rhwng y polisi a’r cyflawni yn gywir.  Mae gen i bortffolio sydd wedi’i ddylunio ar gyfer gweithredu di-fwlch ac, er ei bod yn anochel bod yna heriadau ynglŷn ag adnoddau, rwy'n credu bod yna le, drwy ddeddfwriaeth newydd, cynlluniau strategol llawn dychymyg a gwaith mewn partneriaeth, inni gyflawni atebion pendant, dychmygus a chreadigol er mwyn diogelu a defnyddio amgylchedd hanesyddol Cymru yn y dyfodol. 

 

40.       Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn y Pwyllgor, a fydd yn helpu i fwydo fy syniadau innau dros y misoedd nesaf.